tanycastell.com Tanycastell
Tanycastell

 

 

 

Taith PanoramaSafai TANYCASTELL un milltir i’r gorllewin o Ddolwyddelan. Lleolir pentref Dolwyddelan ar yr A470 hanner ffordd rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog. Safai’r pentref wrth droed Moel Siabod, yn nyffryn hyfryd Lledr, gyda castell Cymreig 12fed ganrif trawiadol uwchlaw.

Ebrill – Gorffennaf 2007: Wedi ei ddodrefnu o’r newydd drwyddo draw, mae TANYCASTELL yn lety ar gyfer hyd at 8 person a 2 got, cil pentan, trawstiau nenfwd gwreiddiol a lloriau llechen a choed. Yn ychwanegol mae’n cynnig pob cyfleuster cyfoes gan gynnwys cyswllt gwe rhad ac am ddim, SKY/ DVD/Teledu/HI-FI

Cegin
Ar y llawr gwaelod mae cegin newydd sbon gyda stof popty a 4 hob trydan, golchwr llestri, rhewgell ac oergell, golchwr a sychwr dillad a pheiriant oeri gwin sy’n dal hyd at 40 potel gwin!

Ystafell fwyta
Mae bwrdd hir ac 8 cadair yn yr ystafell fwyta gan gynnwys stof fodern sy’n llosgi pob tanwydd. Chwaraewr CD/ Radio.

Panarama LolafaLolfa
Mae’r lolfa wedi ei dodrefnu ar gyfer ymlacio a gwerthfawrogi awyrgylch arbennig y tŷ. Mae yma stof haearn bwrw a soffa 3 sedd fawr a chyffyrddus ynghyd â 3 cadair fraich ledr, stôl droed a chadair bren. Yma gallwch wylio eich hoff raglen SKY neu DVD, neu dreulio’r amser yn gwrando ar y radio, hoff CD neu syrffio’r We (ond dewch a’ch gliniadur hefo chi!). Fel arall gwnewch yn fawr o’n llyfrgell bach o lyfrau, mapiau a gemau.

3 Ystafell Wely (yn cysgu 8 person a 2 got)
Mae yma dair ystafell gwely, y fwyaf yn cynnwys gwely maint brenin, cwpwrdd dillad, cist ddillad a 2 gabined ochr gwely a chyfleusterau en suite. Mae’r ail ystafell wely, gyda gwely dwbl a’r un math o ddodrefn; a’r drydedd hefo 2 wely gwestai a’r ddau hefo gwely tynnu allan.

2 Ystafell Ymolchi
Ceir cawod a bath, tŷ bach a sinc a rheilen cynhesu tyweli yn yr ystafell ymolchi fawr. Mae’r ystafell wely maint brenin yn elwa o gyfleusterau en suite sy’n cynnwys cawod, tŷ bach, sinc a chabined ystafell ymolchi.

Gwres
Mae Tanycastell yn elwa o 2 stof llosgi pob tanwydd (glo neu goed) y naill yn yr Ystafell Fwyta a’r llall yn y Lolfa. Mae’r ddwy ystafell yma yn elwa o wres o dan y llawr. Yn ychwanegol gosodwyd gwres canolog nwy ar gyfer nosweithiau gaeafol oer! Bydd 2 dân wedi eu cynnal cyn i ymwelwyr gyrraedd!

Gardd
Tu allan, mae gardd goediog helaeth sy’n ddelfrydol i blant chwarae ynddi. Yn ychwanegol mae modd mwynhau prydau bwyd a diod al fresco wrth y bwrdd a chadeiriau gardd o dan y parasol. O’r ardd cewch olygfeydd unigryw o’r castell a hynny i gyfeiliant hamddenol llif dŵr yr afon gerllaw.

Mae TANYCASTELL yn leoliad delfrydol ar gyfer seibiant byr neu hir. Yma medrwch ymgolli mewn gwylio adar, dringo, beicio mynydd, pysgota, canŵio neu ymlacio’n llwyr a gwerthfawrogi bywyd gwledig hamddenol Cymru. Ar ôl bod yma unwaith byddwch eisiau dod yn ôl!

Yn yr adran hon o’r safle gwe gallwch ganfod mwy am:

Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion. Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.

© Tanycastell, 2007
Tanycastell Bwthyn Gradd II Cofrestredig ~ Tanycastell, Dolwyddelan, Conwy, Gogledd Cymru
symudol: 07989 393 445
 

Dylunwyd gan Delwedd

Printio Ychwanegu at ffefrynnau E-bostiwch ni: holi@tanycastell.com Hysbysu ffrind