|
|
Teulu bach o Gymry Cymraeg ydym ni a symudodd i Danycastell yn Awst 2006. Cyn hynny roeddem yn byw yng Nghaerdydd ers ymhell dros 10 mlynedd. Ganwyd Llywelyn, ein mab yn y brifddinas er bod Carys a minnau (Dylan) yn hanu o Ogledd Cymru (Dinbych a Nefyn). Yn ychwanegol mae ganddom gi defaid Cymreig o’r enw Twm, sy’n hynod o gyfeillgar ac wrth ei fodd yn cael sylw. Gan ein bod yn byw drws nesaf rydym wastad ar gael ar gyfer delio ag unrhyw broblem all godi. Er hynny rydym yn ymwybodol fod pobl yn dod ar wyliau er mwyn cael heddwch, ac rydym yn parchu’r dewis hwnnw bob tro. Ond os ydych chi’n anifeiliaid cymdeithasol rydym wrth ein boddau yn cyfarfod pobl newydd a rhannu hanesion. Dros y blynyddoedd rydym wedi trafeilio cryn dipyn ac erbyn hyn fel perchnogion 2 TANYCASTELL rydym ni’n gallu gwahodd pobl eraill i’r rhan rhyfeddol yma o’r byd. Prynwyd 2 TANYCASTELL ym mis Ebrill 2007 gan ddechrau fel busnes ym mis Awst.
Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion. Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.
|