|
|
Croeso i safle gwe Tanycastell.
Mae bwthyn hanesyddol TANYCASTELL wedi ei leoli ar odre Moel Siabod yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri, ar gyrion pentref Dolwyddelan (4 milltir o Betws y Coed – prif ganolfan cerdded Gogledd Cymru). Yn adeilad gradd II cofrestredig, TANYCASTELL oedd man geni John Jones, Talysarn; un o weinidogion Methodistaidd Calfinaidd amlycaf Cymru (1796-1857). Mae cofeb marmor er coffadwriaeth iddo wedi ei lleoli ar y ffordd breifat sy’n arwain at y tŷ.
Ar ochr arall y ffordd fawr (A470) mae castell hanesyddol Llywelyn Fawr, a adeiladwyd rhwng 1210-1240. Dyma un o’r ychydig gestyll Cymreig sy’n goroesi ac sy’n agored rhwng 9am - 6pm pob dydd.
Mae TANYCASTELL yn lecyn gwirioneddol ddelfrydol ar gyfer seibiant byr neu hir mewn lleoliad gwledig trawiadol. Yma medrwch ymgolli ymhob math o weithgareddau o gerdded bryniau i fynyddoedd, dringo, beicio mynydd, pysgota, canŵio, gwylio adar neu ymlacio’n llwyr a gwerthfawrogi bywyd gwledig hamddenol Cymru. Mae digonedd o draethau, llynnoedd, afonydd, bryniau a mynyddoedd gerllaw a medrwch gerdded i gopa Moel Siabod o TANYCASTELL! Fel arall gallwch ymweld â nifer o atyniadau ymwelwyr sydd o fewn tafliad carreg neu werthfawrogi bywyd pentrefi bychain a threfi marchnad. O gwmpas TANYCASTELL mae’n bosibl y gwelwch lwynogod, moch daear, llygod dŵr, boncathod a chrëyr glas ac wrth iddi nosi ystlumod a thylluanod.
Ar ein safle gwe gallwch ganfod mwy am y canlynol:
Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion. Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.
|