|
|
Adeilad gradd II cofrestredig, mae’n debygol fod yr adeilad gwreiddiol wedi ei adeiladu circa 1690. Adeiladwyd y ddau estyniad ar naill ben y tŷ gwreiddiol circa 1730 oherwydd y cynnydd yn niferoedd y teulu. TANYCASTELL oedd man geni John Jones, Talysarn; un o bregethwyr Methodistaidd Calfinaidd amlycaf Cymru (1796-1857). Mae cofeb marmor er coffadwriaeth iddo wedi ei lleoli ar y ffordd breifat sy’n arwain at y tŷ, ac yn ogystal mae cofeb lechen fawr ar wal ochr tŷ 1 Tanycastell. Arwydd o ddylanwad, statws a’r parch a roddwyd i John Jones oedd y darlun byw canlynol o achlysur ei angladd:
“Bu farw ar 16 Awst, 1857, ac fe'i gladdwyd ym mynwent eglwys Llanllyfni [Arfon]. Yn gorymdeithio gyda'r cynhebrwng oedd 8 o feddygon, 65 o weinidogion a phregethwyr, 70 o flaenoriaid, 200 o gantorion a chantoresau ac oddeutu 4,000 o feibion ac o ferched, a'r niferoedd yn tyfu ar y ffordd gan efallai 2,000 arall.”
[Wicipedia, Y Gwyddoniadur Rhydd]
Allfudodd 3 o’i chwiorydd i Cambria, Wisconsin (UDA) ac mae diddordeb yn y llinach teuluol yn parhau hyd heddiw. Dros y blynyddoedd mae rhai o ddisgynyddion John Jones wedi ymweld â TANYCASTELL. Os ydych yn aelod o’r teulu byddem wrth ein bodd clywed ganddoch chi.
Ar ochr arall y ffordd fawr (A470) mae castell hanesyddol Llywelyn Fawr, a adeiladwyd rhwng 1210-1240. Dyma un o’r ychydig gestyll Cymreig sy’n goroesi ac sy’n agored rhwng 9am - 6pm pob dydd. Wrth edrych i’r de o’r castell mi welwch fryncyn creigiog a choediog – mae’n debyg mai dyma fan geni Llywelyn Fawr. Ym mhentref Dolwyddelan mae Eglwys Sant Gwyddelan a adeiladwyd circa 15fed Ganrif, priodolir yr enw i sant Gwyddelig ymwelodd a’r ardal yn y 7fed ganrif.
Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion. Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.
|